Rydych chi yma: Hafan > Croeso i Sioe Frenhinol Cymru > Cneifio > Pencampwriaeth Cneifio Gwelleifiau Aur y Byd 2010

Pencampwriaeth Cneifio Gwelleifiau Aur y Byd 2010

 

Pencampwriaeth Cneifio Gwelleifiau Aur y Byd 1994

 

Hanes Cyngor a Phencampwriaethau Byd y Gwelleifiau Aur

Ar gyfer Sioe Ddeucanmlwyddiant Cymdeithas y Royal Bath & West of England yn 1977, trawodd John Davis ar y syniad o Bencampwriaeth Byd gyntaf y Gwelleifiau Aur.  Wedi llawer o gynllunio a sêl bendith gan Gymdeithas Ryngwladol Gwelleifiau Aur Seland Newydd cychwynnodd y gystadleuaeth.  Denodd y ceisiadau ar gyfer Pencampwriaethau Byd cyntaf un y Gwelleifiau Aur dimau o ddeuddeg gwlad – Awstralia, Awstria, Lloegr, Ynysoedd Falkland, Ffrainc, Yr Almaen, Libya, Seland Newydd, Gogledd Iwerddon, Yr Alban, De Iwerddon a Chymru.

Yn y chwarter canrif sydd wedi mynd heibio ers y Pencampwriaethau agoriadol, mae’r achlysur wedi datblygu’n rhan bwysig o’r calendr cneifio.  Heddiw mae 9 gwlad sy’n ffurfio craidd Cyngor y Byd - Awstralia, Lloegr, Iwerddon, Seland Newydd, Gogledd Iwerddon, Norwy, Yr Alban, De Affrica a Chymru.


 

 

 
Pencampwriaeth Cneifio Gwelleifiau Aur y Byd 1994
 

Cynlluniau ar gyfer 2010

Bydd y Pencampwriaethau Byd yn cael eu cynnal fel rhan o Sioe Frenhinol Cymru rhwng 19-22 Gorffennaf yn 2010.  Dyma fydd yr ail dro y bydd Sioe Frenhinol Cymru wedi croesawu’r Pencampwriaethau ac mae’r Pwyllgor Cneifio’n brysur yn barod yn aildrefnu’r rhaglen gneifio boblogaidd ar gyfer sioe 2010 i gynnwys y Pencampwriaethau Byd.

Mae’r Adran Gneifio yn rhan allweddol o’r Sioe ei hun, bob amser yn denu tyrfaoedd anferth i’r pafiliwn cneifio pwrpasol.  Mae cynlluniau ar dro i uwchraddio’r cyfleusterau ar gyfer 2010 ac mae’r pwyllgor yn chwilio am gefnogaeth a chyllid nawdd i gyflawni’r nod yma.

Gellir dadlau mai Sioe Frenhinol Cymru yw’r digwyddiad mwyaf a mwyaf llwyddiannus o’i fath yn y DU ac mae’n ddathliad o’r gorau yn Amaethyddiaeth Prydain.

Mae’r digwyddiad pedwar diwrnod wedi denu dros 200,000 o ymwelwyr pob blwyddyn er 1989 gyda 240,140, a oedd yn fwy nag erioed, yn mynychu sioe 2006.  Yn ogystal â’r adran gneifio bythol-boblogaidd, gall y tyrfaoedd fwynhau amrywiaeth o atyniadau a gweithgareddau gwledig, yn cynnwys dros 7,500 o gynigion da byw a hyd at 1,000 o stondinau masnach.  Porwch wefan Sioe Frenhinol Cymru am fwy o wybodaeth am y sioe.

top printiwch
fôn: 01982 553683 e-bost: requests@rwas.co.uk
Maint y testun