Cneifio 2011
Petai Gareth Daniel ond wedi prynu tocyn Loteri canol wythnos ar gyfer dydd Mercher sioe eleni byddai heb os nac oni bai yn filiwnydd erbyn hyn, gymaint oedd ei hwyl ennill nad oedd dim atal arno y diwrnod hwnnw.
Byddai wedi bod yn her anhygoel i wella ar yr hyn a gyflawnodd y llynedd – ennill Pencampwr Cymru, bod y Cymro uchaf ei safle yn yr Agored a sgorio’r pwyntiau unigol gorau yn y prawf rhwng Cymru a Seland Newydd.
Ar ôl cneifio mewn tair rownd derfynol 20-dafad gefngefn flinderus eleni fodd bynnag, dyna’n union beth a wnaeth. Wedi iddo’n gyntaf gadw gafael ar ei deitl Pencampwr Cneifio Cymru aeth yn ei flaen i ennill y Bencampwriaeth Agored ar ei phen ac yna, gyda’i gydgneifiwr Richard Jones, curodd Seland Newydd yn y prawf.
Gyda gornest Agored Frenhinol Cymru, fe ellir dadlau, y teitl mwyaf a mwyaf clodfawr yn Hemisffer cyfan y Gogledd, mae’i hennill yn cadarnhau lle Gareth ymhlith goreuon cneifio’r byd; uchelfannau y mae prin neb sydd heb fod o Seland Newydd yn eu cyrraedd.
Mae’r dyfodol i gneifio yng Nghymru yn edrych hyd yn oed yn fwy disglair gydag ymddangosiad seren newydd ym mherson Richard Jones, bachgen ifanc sydd ond yn 23 mlwydd oed. Ar ôl ennill ei le yn nhîm Cymru wrth ochr Gareth ar Gylchdaith Agored Cymru 2011, ni fyddai neb wedi disgwyl pethau mawr ganddo yn ei brawf tro cyntaf yn erbyn y gorau yn y byd. Gallai llawer o ddynion llai, a dweud y gwir, fod wedi cael trafferth wirioneddol o dan y fath bwysau ac mor ifanc, gyda daliwr record y byd a chyn-Bencampwr Agored y Gwellau Aur, Dion King ar y stondin y tu blaen iddo.
Ni wnaeth y ffordd y bu iddo fanteisio ar ei gyfle adael unrhyw un mewn dim amheuaeth ynghylch paham yr oedd yno ac mae ennill y prawf wedi gosod sylfeini cadarn iddo fel un o enwogion cneifio Cymru yn y dyfodol.
Mae’n dweud ei fod yn nerfus cyn dechrau’r prawf, yn arbennig wrth i’r anthemau cenedlaethol gael eu canu, ond unwaith y dechreuodd gneifio roedd yn iawn. “Unwaith yr ydych wedi gwneud ryw ddwy rydych yn anghofio am bopeth arall, yn gwneud y gorau y gellwch” meddai.
Ychwanegwyd ‘Fagan’ newydd at fwrdd yr enillwyr wrth i Jack Fagan o Seland Newydd ennill y Bencampwriaeth Hŷn, enw sy’n fwy na thebyg o ymddangos eto os yw’n tynnu ar ôl ei dad David, sydd wedi ennill y Bencampwriaeth Agored ddim llai nag un tro ar ddeg.
Enillwyd y Ganolradd gan un arall o Seland Newydd, Linton Palmer, a’r Iau gan Gymro, Richard Smith. Hon oedd buddugoliaeth gyntaf erioed Richard mewn cystadleuaeth Iau a dywedodd ei fod “wrth ei fodd”.
top printiwch