Pencampwriaeth Cneifio Gwelleifiau Aur y Byd 2010

Hanes Cyngor a Phencampwriaethau Byd y Gwelleifiau Aur
Ar gyfer Sioe Ddeucanmlwyddiant Cymdeithas y Royal Bath & West of England yn 1977, trawodd John Davis ar y syniad o Bencampwriaeth Byd gyntaf y Gwelleifiau Aur. Wedi llawer o gynllunio a sêl bendith gan Gymdeithas Ryngwladol Gwelleifiau Aur Seland Newydd cychwynnodd y gystadleuaeth. Denodd y ceisiadau ar gyfer Pencampwriaethau Byd cyntaf un y Gwelleifiau Aur dimau o ddeuddeg gwlad – Awstralia, Awstria, Lloegr, Ynysoedd Falkland, Ffrainc, Yr Almaen, Libya, Seland Newydd, Gogledd Iwerddon, Yr Alban, De Iwerddon a Chymru.
Yn y chwarter canrif sydd wedi mynd heibio ers y Pencampwriaethau agoriadol, mae’r achlysur wedi datblygu’n rhan bwysig o’r calendr cneifio. Heddiw mae 9 gwlad sy’n ffurfio craidd Cyngor y Byd - Awstralia, Lloegr, Iwerddon, Seland Newydd, Gogledd Iwerddon, Norwy, Yr Alban, De Affrica a Chymru.
Gweld Cyn Bencampwyr Gwelleifiau Aur y Byd yma
Cynlluniau ar gyfer 2010
Bydd y Pencampwriaethau Byd yn cael eu cynnal fel rhan o Sioe Frenhinol Cymru rhwng 19-22 Gorffennaf yn 2010. Dyma fydd yr ail dro y bydd Sioe Frenhinol Cymru wedi croesawu’r Pencampwriaethau ac mae’r Pwyllgor Cneifio’n brysur yn barod yn aildrefnu’r rhaglen gneifio boblogaidd ar gyfer sioe 2010 i gynnwys y Pencampwriaethau Byd.
Mae’r Adran Gneifio yn rhan allweddol o’r Sioe ei hun, bob amser yn denu tyrfaoedd anferth i’r pafiliwn cneifio pwrpasol. Mae cynlluniau ar dro i uwchraddio’r cyfleusterau ar gyfer 2010 ac mae’r pwyllgor yn chwilio am gefnogaeth a chyllid nawdd i gyflawni’r nod yma.
Gellir dadlau mai Sioe Frenhinol Cymru yw’r digwyddiad mwyaf a mwyaf llwyddiannus o’i fath yn y DU ac mae’n ddathliad o’r gorau yn Amaethyddiaeth Prydain.
Mae’r digwyddiad pedwar diwrnod wedi denu dros 200,000 o ymwelwyr pob blwyddyn er 1989 gyda 240,140, a oedd yn fwy nag erioed, yn mynychu sioe 2006. Yn ogystal â’r adran gneifio bythol-boblogaidd, gall y tyrfaoedd fwynhau amrywiaeth o atyniadau a gweithgareddau gwledig, yn cynnwys dros 7,500 o gynigion da byw a hyd at 1,000 o stondinau masnach. Porwch wefan Sioe Frenhinol Cymru am fwy o wybodaeth am y sioe.