Rydych chi yma: Hafan > Croeso i Sioe Frenhinol Cymru > Trên Arbennig

Trên Arbennig

Bydd Arriva Trains yn rhedeg gwasanaeth ychwanegol i’r ddau gyfeiriad eto rhwng Caerdydd a Builth Road yn ystod wythnos Sioe Frenhinol Cymru.  (Bydd gwasanaethau amserlenedig eraill yn gweithredu fel arfer).  Mae trefnwyr Sioe Frenhinol Cymru yn cynnig pris mynediad gostyngedig i’r bobl hynny sy’n teithio â thrên i fynychu’r sioe:


Oedolyn - £15.00
Pobl hŷn yn unig - £14.00
Plant 5-15oed - £4.00
Plant dan 5oed - am ddim

(A’r pris tocyn trên perthnasol ar ben hynny, yn dibynnu ar ba orsaf y mae’r daith yn cychwyn ohoni).

Bydd gwasanaeth bws ôl a blaen am ddim yn darparu cyswllt rhwng yr orsaf reilffordd a maes y sioe.

Mae dwy ffordd o brynu tocynnau:

  • Gellir prynu tocynnau ar gyfer y daith trên, y bws ôl a blaen a mynediad i’r sioe o unrhyw orsaf reilffordd sydd wedi’i staffio neu gan asiant gorsaf.

  • Gellir prynu tocynnau ar gyfer y daith trên yn unig ar-lein drwy ymweld â www.arrivatrainswales.co.uk; os ydych chi'n prynu ar-lein, bydd angen prynu tocyn y bws ôl a blaen a mynediad i’r sioe o orsaf reilffordd sydd wedi’i staffio neu oddi wrth y tocynnwr ar y trên.


Mae pob tocyn ar gael o ’nawr.
Gostyngiadau – Mae’r gostyngiadau arferol yn berthnasol i gardiau trên a phrisiau tocynnau plant ond ni chaniateir dim teithio am ddim yn ystod yr wythnos hon. 



Amseroedd trenau’n cyrraedd a gadael

 Arr
 Dep
 H/Code
 From
 To
06:38
06:38
2M43
SWANSEA
SHREWSBRY
07:04
07:04
2V36
SHREWSBRY
CARDIFCEN
10:28
10:34
2Z50
CARDIFCEN
LLNDRINDD
10:56
10:56
2V38
SHREWSBRY
SWANSEA
11:31
11:31
2M51
CARDIFCEN
SHREWSBRY
15:19
15:19
2M57
SWANSEA
SHREWSBRY
15:47
15:47
2V39
SHREWSBRY
SWANSEA
18:04
18:10
2Z51
LLNDRINDD
CARDIFCEN
19:44
19:44
2V41
SHREWSBRY
SWANSEA
20:37
20:37
2M65
SWANSEA
SHREWSBRY


Nodyn arbennig 1034 yn cyrraedd o Gaerdydd yw’r gwasanaeth arbennig sy’n dychwelyd am 1810

top printiwch
fôn: 01982 553683 e-bost: requests@rwas.co.uk
Maint y testun