Trên Arbennig
Bydd Arriva Trains yn rhedeg gwasanaeth ychwanegol i’r ddau gyfeiriad eto rhwng Caerdydd a Builth Road yn ystod wythnos Sioe Frenhinol Cymru. (Bydd gwasanaethau amserlenedig eraill yn gweithredu fel arfer). Mae trefnwyr Sioe Frenhinol Cymru yn cynnig pris mynediad gostyngedig i’r bobl hynny sy’n teithio â thrên i fynychu’r sioe:
Oedolyn - £15.00
Pobl hŷn yn unig - £14.00
Plant 5-15oed - £4.00
Plant dan 5oed - am ddim
(A’r pris tocyn trên perthnasol ar ben hynny, yn dibynnu ar ba orsaf y mae’r daith yn cychwyn ohoni).
Bydd gwasanaeth bws ôl a blaen am ddim yn darparu cyswllt rhwng yr orsaf reilffordd a maes y sioe.
Mae dwy ffordd o brynu tocynnau:
Gellir prynu tocynnau ar gyfer y daith trên, y bws ôl a blaen a mynediad i’r sioe o unrhyw orsaf reilffordd sydd wedi’i staffio neu gan asiant gorsaf.
Gellir prynu tocynnau ar gyfer y daith trên yn unig ar-lein drwy ymweld â www.arrivatrainswales.co.uk; os ydych chi'n prynu ar-lein, bydd angen prynu tocyn y bws ôl a blaen a mynediad i’r sioe o orsaf reilffordd sydd wedi’i staffio neu oddi wrth y tocynnwr ar y trên.
Mae pob tocyn ar gael o ’nawr.
Gostyngiadau – Mae’r gostyngiadau arferol yn berthnasol i gardiau trên a phrisiau tocynnau plant ond ni chaniateir dim teithio am ddim yn ystod yr wythnos hon.
Amseroedd trenau’n cyrraedd a gadael
| Arr | Dep | H/Code | From | To |
| 06:38 | 06:38 | 2M43 | SWANSEA | SHREWSBRY |
| 07:04 | 07:04 | 2V36 | SHREWSBRY | CARDIFCEN |
| 10:28 | 10:34 | 2Z50 | CARDIFCEN | LLNDRINDD |
| 10:56 | 10:56 | 2V38 | SHREWSBRY | SWANSEA |
| 11:31 | 11:31 | 2M51 | CARDIFCEN | SHREWSBRY |
| 15:19 | 15:19 | 2M57 | SWANSEA | SHREWSBRY |
| 15:47 | 15:47 | 2V39 | SHREWSBRY | SWANSEA |
| 18:04 | 18:10 | 2Z51 | LLNDRINDD | CARDIFCEN |
| 19:44 | 19:44 | 2V41 | SHREWSBRY | SWANSEA |
| 20:37 | 20:37 | 2M65 | SWANSEA | SHREWSBRY |
Nodyn arbennig 1034 yn cyrraedd o Gaerdydd yw’r gwasanaeth arbennig sy’n dychwelyd am 1810