Croeso i Sioe Frenhinol Cymru
Sioe Frenhinol Cymru, digwyddiad i beidio â’i golli!
Wedi’i gosod ar y safle parhaol yn Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt, mae’r Sioe yn cynnig llawer o bethau i’w gweld a’u gwneud. Y llynedd daeth dros 200,000 o bobl i’r Sioe. Bydd arddangosfa o dda byw o’r safon uchaf, dros 1000 o stondinau masnach ac adloniant ac atyniadau yn y prif gylch
Fe gynhelir Sioe Frenhinol eleni ar 21 tan 24 Gorffennaf. Mae gatiau’n agor o 8am yn y bore tan 8pm yn y nos. Sôn am sioe wych a gawsom yn 2007 ac mae 2008 yn addo i fod hyd yn oed yn well!
Prynwch Docynnau Sioe Frenhinol Cymru Ar-lein 
Manteisiwch ar y bargeinion sydd ar gael trwy archebu tocynnau Sioe Frenhinol Cymru 2008 ar-lein - Cliciwch yma am ragor o wybodaeth
Cafodd y penderfyniad i fynd ymlaen â Sioe Frenhinol Cymru ar ôl wythnosau o law trwm ei gyfiawnhau’n llwyr pan gliciodd nifer y mynychwyr heibio 200,000 ar y diwrnod olaf.
Os ydych am hel atgofion neu os na fu ichi allu dod i Sioe Frenhinol Cymru paham na wnewch chi gymryd golwg ar Oriel Luniau Sioe Frenhinol Cymru wrth eich pwysau.

**Atyniadau Newydd am 2008**
Ewch i weld beth yw Atyniadau 2008 drwy glicio yma
Er gwaethaf problemau parcio miloedd o geir mewn amgylchiadau anodd dangosodd cefnogwyr y sioe o bob rhan o Gymru a mannau eraill eu teyrngarwch i’r sioe wrth iddynt gyrraedd yn lluoedd dros y pedwar diwrnod. O ganlyniad llwyddodd y Sioe Fawr i gynnal rhediad y ffigurau presenoldeb sydd wedi bod yn fwy na 200,000 pob blwyddyn er 1989. Roedd y ffigur terfynol yn 201,379.
Mae’r Gymdeithas wrth ei bodd â chanlyniad llwyddiannus y sioe, a gynhaliwyd yn y tywydd gwaethaf ers i’r Sioe Fawr symud i Lanelwedd, Llanfair ym Muallt yn barhaol yn 1963.
Diolch
Byddem yn hoffi diolch yn arbennig i’r holl ymwelwyr, arddangoswyr, stiwardiaid, beirniaid a noddwyr a helpodd i wneud y sioe hon yn llwyddiant. Mae clod yn ddyledus hefyd i arddangoswyr 7600 o dda byw, i 1000 o ddeiliaid stondinau masnach a’r holl fasnachwyr eraill a heriodd y tywydd drwg.
Mae’r gymdeithas yn dra diolchgar hefyd i drigolion Llanfair ym Muallt a’r cyffiniau am fod mor amyneddgar a goddefgar.
Nawdd
Nawdd a Lletygarwch
Os hoffech chi gael gwybod sut y gall nawdd hyrwyddo eich busnes chi, ymwelwch â’n hadran nawdd. Gallwn lunio pecyn pwrpasol i gyd-fynd â’ch gofynion busnes, felly teimlwch yn rhydd i gysylltu â ni ar unwaith i drafod eich opsiynau ar gyfer anghenion 2008, gallwn gael sgwrs â chi yn awr ynghylch eich anghenion yn 2008.
Nodwch os gwelwch yn dda nad yw cwn yn cael mynediad i'r maes yn ystod y Sioe Fawr.

Mae gan wefannau 