Rydych chi yma: Hafan > Croeso i Sioe Frenhinol Cymru > Croeso i Sioe Frenhinol Cymru

Croeso i Sioe Frenhinol Cymru

Sioe Frenhinol Cymru 2012 - 23-26 Gorffennaf

Dros 227,000 yn gweld Sioe Frenhinol Cymru

Fe wnaeth Sioe Frenhinol Cymru gynnal ei henw fel y digwyddiad mwyaf a gorau o ran nifer y mynychwyr o’i fath ym Mhrydain, pan aeth mwy na 227,000 o ymwelwyr drwy giatiau maes y sioe yn Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt.

Fideo byr am yr hyn sydd gan Sioe Frenhinol Cymru i’w chynnig



Tim Arddangos Beiciau Modur Dull
Rhydd Bolddog Lings
Titan y Robot


Ni wnaeth y dirwasgiad, na rhagolygon tywydd bygythiol yn y diwrnodau’n arwain at y sioe, arafu llif yr ymwelwyr, yn cynnwys 696 o 40 o wledydd a gofrestrodd yn y Pafiliwn Rhyngwladol.  Roedd nifer terfynol y mynychwyr, sef 227,513, y chweched uchaf a gofnodwyd, gan wneud hon yn drydedd Sioe Frenhinol Cymru ar hugain yn olynol ble mae nifer yr ymwelwyr wedi bod yn fwy na 200,000.

Fe wnaeth y sioe bedwar diwrnod hefyd groesawu cannoedd o aelodau newydd a ymunodd â Chymdeithas Amaethyddol Cymru, gan fynd â’r aelodaeth i dros 18,000, y nifer uchaf erioed.  Roeddynt yn gallu mwynhau cyfleusterau’r Ganolfan Aelodau £1.2m newydd, a agorwyd yn swyddogol yn ystod y sioe.

Bu buddsoddiad mawr arall o £225,000 a wariwyd ar wella draeniad ac wyneb y prif gylch yn llwyddiannus.  Fe wnaeth yr wyneb wrthsefyll y draul drom a chadw ei olwg glas iraidd gydol pedwar diwrnod y sioe.

Dywedodd cadeirydd bwrdd rheoli Sioe Frenhinol Cymru, David Lewis, fod y canlyniad yn destun boddhad mawr.  Roedd y ddau fuddsoddiad wedi dwyn ffrwyth ac wedi dangos bod Sioe Frenhinol Cymru yn gymdeithas flaengar.

Roedd y sioe, meddai, wedi bod yn llwyddiant ysgubol arall.

Nawdd a Lletygarwch

Os hoffech chi gael gwybod sut y gall nawdd hyrwyddo eich busnes chi, ymwelwch â’n hadran nawdd.

 

top printiwch
fôn: 01982 553683 e-bost: requests@rwas.co.uk
Maint y testun