Rydych chi yma: Hafan > Croeso i Sioe Frenhinol Cymru > Stondinau Masnach > Stondinau Masnach

Stondinau Masnach

Yn galw ar bob Arddangosydd Masnach!


Yn ystod y blynyddoedd diweddar, mae’r digwyddiad yma wedi denu dros 220,000 o ymwelwyr, …felly gwnewch yn siwr o’ch lle eleni!

Trade stands 2
Mae stondinau masnach ar gael mewn unrhyw faint i gyd-fynd â’ch anghenion

Costau Enghreifftiol

Gofod yn yr Awyr Agored – Amaethyddol £7.36 am pob m²
Gofod yn yr Awyr Agored – Masnachol £18.28 am pob m²
Neuadd Arddangos De Morgannwg (Unedau Crefftau) £297.00 am pob modiwl

Rhaid ychwanegu TAW at y prisiau i gyd

I arddangos bwyd yn y neuadd cysylltwch â Fernleigh Designs ar 02920 763524 a gofyn i gael siarad ag Elayne Sutton. Noder os gwelwch yn dda: Mae’n rhaid i’r sawl sy’n dymuno arddangos yn y neuadd hon fod wedi eu lleoli yng Nghymru.

Os byddech yn hoffi rhagor o fanylion anfonwch e-bost gyda’ch cyfeiriad post ac fe wnawn anfon y manylion ymlaen atoch.

Bydd arddangoswyr a fynychodd Sioe 2009 yn cael y cyfle i archebu’r un lle ar gyfer 2010, ac mae ganddynt hyd at 1 Chwefror 2010 i ddychwelyd eu ceisiadau. Ni ddylai darpar arddangoswyr dybio fod stondin wedi’i glustnodi ar eu cyfer nes eu bod wedi derbyn cadarnhad drwy anfoneb/dderbynneb ysgrifenedig gan y Gymdeithas.

 

Tradestand Application Forms 2010

Os hoffech chi fod yn un o’r 1000 a mwy o Stondinau Masnach sy’n mynychu Sioe Frenhinol Cymru bob blwyddyn yna llwythwch y ffurflen gais isod i lawr. Gwnewch yn siwr os gwelwch yn dda eich bod yn darllen y Rheolau a’r Rheoliadau ynghyd â Pholisi Diogelwch y Gymdeithas cyn arwyddo’r cais a’i ddychwelyd atom. Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw’r 1af o Chwefror.

Bob blwyddyn rydym wedi ein gordanysgrifio am le yn Sioe Frenhinol Cymru ac felly ni allwn warantu y bydd eich cais yn llwyddiannus. Bydd cadarnhad o gais llwyddiannus yn cael ei anfon atoch ar ffurf Anfoneb neu Dderbynneb y Gymdeithas.


Ffurflen Gais
Rheolau a Rheoliadau
Polisi Diogelwch
Map o Faes y Sioe
Hawlen i Weithio
Ffurflenni a Chanllawiau Asesiad Risg


Nodiadau Pwysig am y rheoliadau


Trydan

Os ydych yn gwneud cais am Stondin Fasnach Allanol a bod angen trydan arnoch yna llwythwch y ffurflen gais ganlynol i lawr os gwelwch yn dda.
Ffurflen Drydan Stondin Allanol


Os ydych yn gwneud cais am Stondin Fasnach yn Neuadd Morgannwg a bod angen trydan arnoch yna llwythwch y ffurflen gais ganlynol i lawr os gwelwch yn dda.
Ffurflen Drydan Stondin Neuadd Morgannwg


Y dyddiad cau ar gyfer Ceisiadau Trydan yw’r 25 o Fehefin.

 

top printiwch
fôn: 01982 553683 e-bost: requests@rwas.co.uk
Maint y testun