Rydych chi yma: Hafan > Ffair Aeaf > Ffair Aeaf

Ffair Aeaf

Ffair Aeaf - 29 & 30 Tach 2010

Bydd 20fed Ffair Aeaf Frenhinol Cymru yn cael ei hagor yn swyddogol gan Elin Jones AC, Y Gweinidog dros Faterion Gwledig.  Mae’r Ffair, sy’n cael ei chlodfori fel y sioe stoc dethol orau yn Ewrop, wedi denu dros 350 o gynigion yn adran y gwartheg, sy’n fwy nag erioed a bydd stocmyn blaenllaw yn cystadlu am y gwobrau gorau.


Fideo byr am yr hyn sydd gan Ffair Aeaf Cymru i’w chynnig

Oedd nifer dda o ddefaid a moch yn cystadlu hefyd ac mae’r cynigion yn adran y ceffylau a’r merlod wedi cyrraedd 730, yr uchaf er 2004 a 71 yn fwy nag yn 2008.

Yn ôl arolwg ar-lein yn dilyn Ffair Aeaf y llynedd dywedodd 17.5% o’r rhai a ymatebodd fod siopa am anrhegion Nadolig yn un o’r prif resymau dros eu hymweliad â’r Ffair, felly gydag ond ychydig dros dair wythnos i fynd tan y Nadolig a gyda rhyw 300 o stondinau masnach i ddewis ohonynt, bydd siopa yn uchel ar yr agenda i lawer o ymwelwyr.

Mae adran cynnyrch a gwaith llaw boblogaidd y Ffair, gosod blodau, hen bethau, celfyddyd, ffasiwn, cosmetigau, dillad ac arddangosiadau o amrywiol weithgareddau i gyd yn rhan o’r rhaglen ddeuddydd, sy’n cynnwys sioe gŵn hela a sioe ddofednod o statws pencampwriaeth (Dydd Mawrth) gyda thua 1000 o adar yn cael eu harddangos.

Mae’r Neuadd Fwyd, sy’n darparu bwyd a diod o’r ansawdd gorau a gynhyrchwyd yng Nghymru, yn atyniad na ddylid ei golli ac fe gyrhaedda’r Ffair ei hanterth Dydd Mawrth gyda’r arwerthiant da byw, y bydd prynwyr o bob rhan o’r DU yn ei fynychu.

Felly dewch draw ac ymuno â ni! 


Gwybodaeth Ychwanegol

• Gatiau'n agor am 8 y bore
• Mae'r meysydd parcio wedi’u lleoli yng ngwaelod Maes y Sioe a hefyd Bryn y Da Byw.
• Llecyn Blaen yn y Maes Parcio ar gyfer Deiliaid Bathodyn Glas y Gwasanaethau Cymdeithasol
• Catalogau £3.50 ar werth yn y Bythau Catalogau
• Mae holl aelodau CAFC â’r hawl i gael tocynnau disgownt

no dogs allowedAg eithrio cŵn tywys, anogir ymwelwyr i beidio dod â’u cŵn i’r Ffair Aeaf, ond os ydyw'n angenrheidiol i wneud, rhaid cawd cŵn ar dennyn bob amser ac ni chânt ddod i mewn i'r adeiladau. Peidiwch â gadel cŵn mewn ceir.

top printiwch
fôn: 01982 553683 e-bost: requests@rwas.co.uk
Maint y testun