Ffair Aeaf
Mae croeso siriol cynnes yn eich aros yn Ffair Aeaf Frenhinol Cymru eleni, y bedwaredd un ar bymtheg, sy’n ymfalchïo yn y ffaith mai dyma’r digwyddiad stoc dethol gorau yng Nghymru, er bod gan y Ffair rywbeth i’w gynnig i bawb. Prif atyniad y Ffair, wrth gwrs, yw’r arddangosfa wych o dda byw, gyda chyfartaledd o 1400 o gynigion yn y cystadlaethau da byw ac yn y cystadlaethau ceffylau, sy’n dangos ffermio Prydain ar ei orau, ac sy’n cyrraedd ei anterth yn arwerthiant y stoc ar y dydd Mawrth, ac, am y tro, ers meitin arwerthiant y moch. Disgwylir yn eiddgar am ganlyniadau’r arwerthiant, gan fod record wedi’i gosod y llynedd am y prif bencampwr, bustach Limousin-Belgian Blue, a werthwyd am £12,500, y pris uchaf erioed.
Prynwch Docynnau Sioe Ffair Aeaf Ar-lein
Manteisiwch ar y bargeinion sydd ar gael trwy archebu tocynnau Ffair Aeaf 2008 ar-lein ac mi fyddwch yn osgoi colli amser wrth y mynedfeydd prysur!
Cliciwch yma i wybod mwy
Bydd yna sioe ddofednod ragorol ar y Dydd Mawrth gyda 1000 o adar yn cael eu harddangos, ac ar y dydd Llun yn unig bydd golygfa ysblennydd y sioe gŵn hela i’w gweld. Dros y ddau ddiwrnod bydd y tîm pedoli yn rhoi arddangosiadau o’r hen grefft hon, sydd â galw mawr iawn amdani ym myd heddiw.
Bydd yr adran cynnyrch a gwaith llaw yn cynnwys arddangosfa o grefftwaith artistig ac arddangosion melysion i ddod â dŵr i’r dannedd; yn cael eu cynnal yn Neuadd Arddangos De Morgannwg hefyd fydd rhyw naw deg o arddangosfeydd gosod blodau arbennig, yn rhai modern ac yn rhai traddodiadol, yn amrywio o addurniadau drws Nadolig i ddehongliadau blodeuaidd bendigedig o “Hedd ac Ewyllys Da”.
Bydd rhaglen o arddangosiadau blodau yn cael ei chynnal yng nghyfforddusrwydd y Pafiliwn Rhyngwladol ac mae’r sioeau ffasiwn wedi dychwelyd, yn cael eu darparu gan Initial A, Llanfair ym Muallt gyda detholiad o ddillad, yn cynnwys dewis ar gyfer y tymor partïon; cewch eich croesawu yno gyda gwydraid o win cynnes a mins-pei! Bydd Clybiau’r Ffermwyr Ifanc yn cystadlu hefyd i addurno’r goeden Nadolig orau. Felly bydd digonedd o syniadau ichi wneud y Nadolig hwn yn rhywbeth arbennig am bris fforddiadwy.
Efallai hefyd yr hoffech fanteisio ar y 300 o stondinau masnach ar y safle, felly os am gael gwybod mwy ewch i’n tudalennau anrhegion Nadolig a stondinau masnach.
Mae’r Ffair yn agor am 8 y bore ar y ddau ddiwrnod felly dewch i ymuno â ni.
Gwygodaeth Nawdd
Mae amrywiaeth o becynnau noddi ar gael sy’n cynnig elw rhagorol ar eich buddsoddiad ac sy’n addas ar gyfer noddwyr mawr a bach fel ei gilydd.
Ag eithrio cŵn tywys, anogir ymwelwyr i beidio dod â’u cŵn i’r Ffair Aeaf, ond os ydyw'n angenrheidiol i wneud, rhaid cawd cŵn ar dennyn bob amser ac ni chânt ddod i mewn i'r adeiladau. Peidiwch â gadel cŵn mewn ceir.
