Rydych chi yma: Hafan > Ffair Aeaf > Anrhegion Nadolig a Chrefftau

Anrhegion Nadolig a Chrefftau

Os ydych chi’n edrych am yr anrhegion Nadolig ‘gwahanol’ i blesio y rhai sy’n creu poen meddwl i chi bob blwyddyn …yna galwch mewn i’r ddau bafilwn siopa i weld os oes rhywbeth yno i ddatrys eich problem!

Mae’r siopau a’r stondinau niferus ac amrywiol ym Mhafiliwn Sir Drefaldwyn, ac yn y Pafiliwn Siopa ar draws y ffordd i adeilad yr NFU ym mhen ucha Eisteddle y Prif Gylch, yn cynnig dewis enfawr o anrhegion i’r teulu, ffrindiau yn ogystal a’r cartref.

Mae yna ddewis o grefftau i hen bethau, peintiadau i hetiau ffelt, gemwaith i dedi bêrs ac ati. Dewch i’n siop o dan y prif feinciau ac ym Mhafiliwn Trefaldwyn i gael nwyddau’r gymdeithas.  Ynghyd â F.R. Grey a’u dewis gwych o lestri tsieina.
 
Gyda llai na 30 diwrnod at y Nadolig, peidiwch a methu ar y cyfle i ysgafnhau y faich wrth i’r Ŵyl nesau!

Un o’r nifer o anrhegion unigol ar gael yn ffair y llynedd.

top printiwch
fôn: 01982 553683 e-bost: requests@rwas.co.uk
Maint y testun