Anrhegion Nadolig a Chrefftau

A ydych chi’n chwilio am yr anrhegion Nadolig "anghyffredin" hynny? A oes gennych chi rywun sy’n anodd ei blesio? Yna mae ymweliad â’r Pafiliynau Siopa yn hanfodol. Mae’r stondinau masnach yn y Pafiliynau Siopa yn cynnig amrywiaeth enfawr o anrhegion i’r teulu, ffrindiau a’r cartref, yn cynnwys pethau fel bagiau llaw lledr, eitemau pren turniedig, cardiau cyfarch, dillad gweu, tsieina, darluniau ac eitemau gofal croen naturiol. Mae’r Pafiliwn Siopa (a leolir gyferbyn â Phafiliwn NFU Cymru) yn cynnig ymhlith ei amrywiaeth o nwyddau byslau a theganau pren addysgol, gemwaith o grefft llaw, dillad gwarchod hwyliog i blant ac eitemau a wneir ar gais o lechen Gymreig.
Gweler hefyd Gyngor Crefft Cymru sydd wedi’i leoli ym Mhafiliwn y CLA.
Mae yna ddewis o grefftau i hen bethau, peintiadau i hetiau ffelt, gemwaith i dedi bêrs ac ati. Dewch i’n siop o dan y prif feinciau ac ym Mhafiliwn Trefaldwyn i gael nwyddau’r gymdeithas. Ynghyd â F.R. Grey a’u dewis gwych o lestri tsieina.
Gyda llai na 30 diwrnod at y Nadolig, peidiwch a methu ar y cyfle i ysgafnhau y faich wrth i’r Ŵyl nesau!
![]() | ![]() |
Un o’r nifer o anrhegion unigol ar gael yn ffair y llynedd.
top printiwch

