Rydych chi yma: Hafan > Ffair Aeaf > Neuadd Clwyd / Morgannwg (Hen Neuadd Fwyd)

Neuadd Clwyd / Morgannwg (Hen Neuadd Fwyd)

Hen Bethau ~ Gosod Blodau ~ Anrhegion ~ Cynnyrch a Gwaith Llaw



Mae’r sioeau Cynnyrch a Gwaith Llaw a Gosod Blodau wedi’u hadleoli i Neuadd Clwyd Morgannwg ar gyfer 2011. Bydd dros 500 o arddangosion ardderchog i’w gweld. Bydd Stiwardiaid yn bresennol hefyd i ateb eich cwestiynau ar y dewis o grefftau a arddangosir.

Y thema gyffredinol ar gyfer y gystadleuaeth Gosod Blodau yw “Croeso tymhorol”, bydd dros 70 o drefniadau o fewn saith dosbarth yn cael lle amlwg.



Bydd yr adran Gynnyrch yn cynnwys eitemau megis melysion Nadolig, mins-peis, canapes ar gyfer parti coctel Nadolig, a theisennau cwpan Nadolig wedi'u haddurno ymhlith yr eitemau ar y fwydlen, tra bydd dosbarthiadau i blant yn eu herio i greu craceri Nadolig bwytadwy, hosan Nadolig bwytadwy neu iglw bwytadwy. Digonedd o syniadau i’r rheini sy’n chwilio am ysbrydoliaeth y Gwyliau yma!

Bydd Ffeiriau Hen Bethau Two C’s yn bresennol gyda dewis anarferol o anrhegion Nadolig neu drît hunanfaldodus ar gyfer ein hymwelwyr. Bydd ymwelwyr yn gweld wynebau cyfarwydd yn cynnig hen bethau sydd o safon ond yn fforddiadwy, yn cynnwys gemwaith, dodrefn, blancedi, tsieina Cymreig, arian, porslen, gwydr, Beswick, ayb., a gellir cysylltu â nhw drwy Ffeiriau Hen Bethau Two C's ar 01544 267481.

Bydd stondin y “Siop Flodau” o’r Stryd Fawr, Llanfair ym Muallt wedi’i lleoli yn y cyntedd yn gwerthu amrywiaeth o fanion bethau sydd a wnelo â blodau, gemwaith ac anrhegion.

House of Sugar – Mrs J McGough

Yn chwilio am rywbeth ar gyfer teisen ddathlu?  Dewch i weld casgliad House of Sugar o addurniadau bwytadwy - anifeiliaid, blodau ac wrth gwrs, lawer o bethau ar gyfer y Nadolig.  Arddangosiadau trwy gydol y dydd o stensiliau dur gloyw i addurno teisennau– y ffordd hawsaf erioed o ychwanegu’r cyffyrddiad olaf at eich teisen.

Felly gwnewch yn siŵr eich bod yn cofio ymweld â Neuadd Clwyd / Morgannwg!

 

 

top printiwch
fôn: 01982 553683 e-bost: requests@rwas.co.uk
Maint y testun