RWAS - HSBC Competition 2006
Enillwyr y gystadleuaeth a oedd yn cael ei rhedeg ar y cyd gan y Gymdeithas a Banc HSBC yn Ffair Aeaf 2006 oedd cwpwl o ganolbarth Cymru, John a Margaret Bennett o Drefyclo ym Mhowys.

Sue Jones HSBC yn cyflwyno’r wobr i’r enillwyr llawen John a Margaret Bennett.
“Roedd yn ddiwrnod lwcus inni,” medd Mrs Bennett. “Rydym wrth ein bodd o ennill ac yn edrych ymlaen at ddod i bob un o 3 achlysur ‘Brenhinol Cymru’ eleni gyda’n wyrion a’n wyresau.”
Fel enillwyr byddan nhw’n derbyn tocynnau mynediad teuluol i Ŵyl Tyddyn a Gardd Frenhinol Cymru sydd i’w chynnal yn Llanelwedd ar Fai 19 a 20, i bedwar diwrnod Sioe Frenhinol Cymru o Orffennaf 23 – 26, a’r Ffair Aeaf sy’n cael ei chynnal eleni ar Dachwedd 26 a 27.
David Lewis, Cadeirydd Bwrdd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn dethol yr enillwyr yng nghwmni Audrey Lewis (Swyddog Nawdd) a Sam Bufton.
“Fel un o brif noddwyr y Ffair Aeaf creodd y gystadleuaeth lawer iawn o ddiddordeb ar ein stondin ac roeddem yn blês gyda nifer y ceisiadau. Llongyfarchiadau i Mr a Mrs Bennett. Rwyf yn sicr y cewch chi amser gwych yn mynychu bob un o’r digwyddiadau trwy gydol y flwyddyn.”
Sue Jones,
Rheolwr Bancio Amaethyddiaeth HSBC yng Nghanolbarth Cymru
Banc HSBC ccc
Mae HSBC Agriculture yn un o gyd-brif noddwyr Ffair Aeaf Amaethyddol Frenhinol Cymru. Mae HSBC Agriculture yn darparu gwasanaeth arbenigol ar gyfer amaethyddiaeth a chwsmeriaid amaethfusnes ledled Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon gyda thîm o dros 50 o reolwyr un pwrpas sy’n canolbwyntio ar anghenion cwsmeriaid o ffermwyr a chnydwyr yn unig.
top printiwch