RWAS - HSBC Competition 2007
Enillwyr y gystadleuaeth a oedd yn cael ei rhedeg ar y cyd gan y Gymdeithas a Banc HSBC yn Ffair Aeaf 2007 oedd Mrs Susan Cole o Caerdydd.

David Lewis, Cadeirydd Bwrdd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn dethol yr enillwyr yng nghwmni Barrie Jones (Company Secretary) a David Powell (Honorary Treasurer).
Maer enillydd yn cael tocyn teulu ar gyfer y tri digwyddiad, Gŵyl Tyddyn a Gardd, y Sioe Frenhinol Gymreig a’r Ffair Aeaf.
Dewiswyd yr enillydd ddydd Gwener 7 Rhagfyr gan Mr David Lewis, Cadeirydd y Bwrdd, gyda Mr David Powell, y Trysorydd Anrhydeddus a Mr Barrie Jones, Ysgrifennydd y Cwmni hefyd yn bresennol.
Dywedodd Mrs Susan Cole ‘Alla i ddim credu hyn gan nad ydw i byth yn ennill dim, a dweud y gwir.’
Mae Mrs Susan Cole yn gweithio fel gweinyddwraig i’r Eglwys Ddiwygiedig Unedig. Mae hi wedi mynychu bob un o dri digwyddiad y ‘Sioe Frenhinol’ ac yn edrych ymlaen hyd yn oed yn fwy at fynd y flwyddyn nesaf oherwydd ei gwobr.
Fe noddwyd y gystadleuaeth ar y cyd gan Gymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru ac HSBC.
Dywedodd Nigel Davies, Rheolwr Rhanbarthol Amaeth dros Gymru a’r Gororau HSBC: “Fel prif noddwr Ffair Aeaf Frenhinol Cymru, derbyniodd y gystadleuaeth nifer fawr o geisiadau gan greu diddordeb mawr yn ein stondin. Llongyfarchiadau i Mrs Susan Cole – rwy’n sicr y gwnaiff hi fwynhau mynychu bob un o ddigwyddiadau’r flwyddyn nesaf yn arw.”
top printiwch

