Pafiliynau Siopa
A ydych yn chwilio am yr anrhegion Nadolig "anghyffredin" hynny? A oes gennych rywun sy’n anodd eu plesio? Yna mae ymweliad â’r Pafiliynau Siopa yn hanfodol. Mae’r stondinau masnach yn y Pafiliynau Siopa yn cynnig amrywiaeth enfawr o anrhegion i’r teulu, i gyfeillion a’r cartref, yn cynnwys eitemau megis bagiau llaw lledr, eitemau pren turniedig, cardiau cyfarch, dillad gweu, tsieina, lluniau ac eitemau gofal croen naturiol. Mae’r Pafiliwn Siopa (a leolir gyferbyn â Phafiliwn yr NFU) yn cynnig ymhlith ei amrywiaeth o nwyddau byslau a theganau pren addysgol, gemwaith crefft llaw, dillad gwarchod hwyl i blant ac eitemau a wneir ar gais o lechi Cymreig.
Cofiwch alw i weld Cyngor Crefftau Cymru, sydd wedi’i leoli ym Mhafiliwn Cymdeithas y Tirfeddianwyr (CLA), hefyd.
top printiwch