Rydych chi yma: Hafan > Ffair Aeaf > Ffair Aeaf

Ffair Aeaf

Ffair Aeaf - 29 & 30 Tachwedd 2010

Mae 21ain Ffair Aeaf Frenhinol Cymru yn addo bod yn ddigwyddiad stoc ddethol rhagorol arall, a fydd yn rhoi lle amlwg i arddangosfa wych o dda byw, gan ddangos y gorau o ffermio Prydain.

Mae i’r Ffair awyrgylch Nadoligaidd arbennig, felly paham na fanteisiwch chi ar y 300 o stondinau masnach a fydd ar y safle.


Fideo byr am yr hyn sydd gan Ffair Aeaf Cymru i’w chynnig

Bydd rhaglen o arddangosfeydd, cystadlaethau ac arddangosiadau yn ystod y ddau ddiwrnod.

Beth sydd ymlaen?


•    Beirniadu Gwartheg, Ceffylau, Defaid, Moch, Dofednod, Cŵn Hela a Charcas Ŵyn
•    Gwerthu Gwartheg, Defaid a Charcasau Ŵyn

•    Anrhegion Nadolig
•    Neuadd Fwyd
•    Sioe Gynnyrch a Gwaith Llaw
•    Sioe Gosod Blodau
•    Groto Siôn Corn
•    Arddangosiadau Crefftau a Blodau yn y Pafiliwn Rhyngwladol


Felly dewch draw ac ymuno â ni! 


Gwybodaeth Ychwanegol

•   Gatiau'n agor am 8 y bore
•   Mae'r meysydd parcio wedi’u lleoli yng ngwaelod Maes y Sioe a hefyd Bryn y Da Byw.
•   Llecyn Blaen yn y Maes Parcio ar gyfer Deiliaid Bathodyn Glas y Gwasanaethau Cymdeithasol 
•   Catalogau ar werth yn y Bythau Catalogau
•   Mae holl aelodau CAFC â’r hawl i gael tocynnau disgownt
•   Arlwyo – Bwyty, Caffis, Bar ac unedau symudol
•   Mae Parcio Ceir ar gael am ddim ………

 

top printiwch
fôn: 01982 553683 e-bost: requests@rwas.co.uk
Maint y testun