Rydych chi yma: Hafan > Ffair Aeaf > Ffair Aeaf

Ffair Aeaf

Pris uchaf erioed am ŵyn yn y Ffair Aeaf


Torrwyd pob record yn Ffair Aeaf Frenhinol Cymru ar Dydd Mawrth gyda gwerthiant y pâr pencampwyr am £3,400 yr un, y pris uchaf a dalwyd erioed am ddefaid yn y Ffair.

Roedd yr ŵyn Beltex x Beltex x yn eiddo i’r bridwyr nodedig Michael a Heulwen Owens o Bont-siân, Llandysul, Ceredigion, a oedd wedi hawlio’r brif bencampwriaeth am y trydydd tro yn y Ffair. Prynwyd yr ŵyn buddugol gan Welsh Country Foods ar ran Asda ar gyfer un o’u siopau yng Ngorllewin Canolbarth Lloegr.

 
Gwerthodd prif bencampwr y gwartheg, Tommy, limousine a arddangoswyd gan Glyn Owens o Lanrhaeadr, Dinbych, a agorodd y Ffair Aeaf yn swyddogol ddydd Llun, am £6,500 i’r beirniad Tom Hughes, o Hughes Butchers, Ynys Môn.

Gwerthodd enillydd cil-wobr y brif bencampwriaeth, Miss Stress, heffer o darw British Blonde a arddangoswyd gan Berwyn Hughes o Lanbed, am £3,000 i’r cigydd o Aberystwyth, Robert Rattray.

no dogs allowedAg eithrio cŵn tywys, anogir ymwelwyr i beidio dod â’u cŵn i’r Ffair Aeaf, ond os ydyw'n angenrheidiol i wneud, rhaid cawd cŵn ar dennyn bob amser ac ni chânt ddod i mewn i'r adeiladau. Peidiwch â gadel cŵn mewn ceir.

top printiwch
fôn: 01982 553683 e-bost: requests@rwas.co.uk
Maint y testun