Ffair Aeaf
Nifer mynychwyr uchaf erioed yn y Ffair Aeaf
Adlewyrchwyd diddordeb brwd mewn gwartheg bîff ifanc ymhlith prynwyr yn chwilio am anifeiliaid gyda photensial sioe gan fasnachu hynod o fywiog yn Ffair Aeaf Frenhinol Cymru pan wnaeth nifer o anifeiliaid ifanc wneud mwy na £4000 yn y cylch arwerthu. | Fideo byr am yr hyn sydd gan Ffair Aeaf Cymru i’w chynni |
Talwyd pris uchaf y diwrnod, £4700 gan Elfed Williams o Bontsenni, Aberhonddu, am heffer ifanc o darw British Blue a buwch Limousin x, a fridiwyd ac a arddangoswyd gan R.W. & L.A. Jones o Lanfair ym Muallt.
Prynwch Tocynnau Ffair Aeaf 2012 Ar-lein
Manteisiwch ar y bargeinion sydd ar gael trwy archebu tocynnau Ffair Aeaf mi fyddwch yn osgoi colli amser wrth y mynedfeydd prysur! Cliciwch yma i gael gwybod mwy

Bu Mr Williams, y prynwr, a oedd ei hun yn cystadlu yn y Ffair gyda phump o wartheg, gan ennill nifer o wobrau, yn gefnogwr mawr ac yn enillydd gwobrau yn y Ffair Aeaf am nifer o flynyddoedd.
Cafodd prif bencampwr eleni, eto’n heffer, cystadleuydd 18 mis oed o darw Limousin a arddangoswyd gan Andrew a Christopher Owens o Landysul, Ceredigion, ei phrynu gan y beirniad, Alan Davies, cigydd, o Aberriw, Y Trallwng, am £4500.
Yn adran y defaid aeth y brif bencampwriaeth i R. Hall a’i Fab o Gaerliwelydd, Cymbria, am bâr o ŵyn benyw Beltex, a werthodd am £520 yr un i’r beirniad William Lloyd Williams o Fachynlleth.
Hwy hefyd oedd yn arddangos enillwyr y gil-bencampwriaeth, a werthwyd am £480 y pen i’r un prynwr.
Hawliodd W.H. Weaver o Malvern, Sir Gaerwrangon, y brif wobr yn y cystadlaethau carcasau ŵyn gyda Beltex x Texel x wedi’i fagu gartref, a werthodd am £800 i Randall Parker Foods o Lanidloes. Meistr Rhys Lewis o Lanelan, Rhaeadr enillodd y prif bencampwr (parau) yn y gystadleuaeth carcasau ŵyn, a werthodd am £270 i T.W. Roberts, Caerdydd.
Aeth y pencampwriaethau am y parau ac am y moch unigol i Andrew T. Davies a’i Fab o Aberystwyth, gyda Tomos Wyn Howatson o Lansannan, Dinbych yn enillydd y gil-wobr.
Roedd dros 600 yn cystadlu yn adran y ceffylau. Y prif bencampwr oedd Casino Scandal a arddangoswyd gan Mrs Ann Bassett ac aeth y wobr chwenychedig am y merlyn neu’r cob Cymreig gorau i C. & G.P. Granger a Mitchell am Cargarsar Silver Phantom.
Agorwyd y Ffair yn swyddogol gan Moss Jones, Cyfarwyddwr Cymdeithas Cyfundrefn Amaethyddol Cymru, a rybuddiodd y gallai cwymp yng ngwerth yr ewro gael effaith ddinistriol ar allforion ŵyn.
Gydag atgofion o Ffair Aeaf 2010 wedi’i tharo gan eira a rhew dal yn fyw, roedd y gymdeithas wedi rhagofalu eleni ar gyfer y posibilrwydd o dywydd gwael eto. Roedd hyn yn cynnwys stôr o raean, contractwr wrth law, a buddsoddi mewn tâp a dwymwyd gan drydan i ddiogelu pibelli dŵr rhag rhewi. Fel y digwyddodd, fodd bynnag, nid oedd eu hangen a heidiodd ymwelwyr drwy’r giatiau yn Llanelwedd dros ddau ddiwrnod y Ffair i greu’r nifer mynychwyr uchaf erioed, 27,995 – 6840 i fyny ar y llynedd a 999 i fyny ar y record flaenorol a oedd wedi sefyll er 2006.
Gwygodaeth Nawdd
Mae amrywiaeth o becynnau noddi ar gael sy’n cynnig elw rhagorol ar eich buddsoddiad ac sy’n addas ar gyfer noddwyr mawr a bach fel ei gilydd.
| Dilynwch ni ar: | ![]() |
Ag eithrio cŵn tywys, anogir ymwelwyr i beidio dod â’u cŵn i’r Ffair Aeaf, ond os ydyw'n angenrheidiol i wneud, rhaid cawd cŵn ar dennyn bob amser ac ni chânt ddod i mewn i'r adeiladau. Peidiwch â gadel cŵn mewn ceir.


Mae gan 